Cymraeg/Welsh: Ymunwch â ni am draddodiad cenedlaethol newydd: gwirio ac ailwirio Slow Ways trwy gydol wythnos canol haf
Galw ar bawb sydd wrth eu bodd yn cerdded, rhedeg ac olwyno!
Rydym yn brysur yn creu rhwydwaith cerdded cenedlaethol mentrus sy’n ymuno â phob tref a dinas ym Mhrydain Fawr.
Os yw hyn yn swnio’n dda i chi, derbyniwch ein gwahoddiad i’n Gŵyl Gwirio’r Llwybrau dros ganol yr haf a chanol y gaeaf. Byddem wrth ein bodd â’ch cwmni!
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod Slow Ways ar draws Prydain Fawr yn agored ac yn barod i gael eu mwynhau… ac rydyn ni’n chwilio am filoedd o bobl i ymuno a gwirio rhan o’r wlad.
Curo terfynau’r plwyf
Rydyn ni’n cael ein hysbrydoli gan yr hen draddodiad o guro terfynau’r plwyf, lle byddai pobl yn cerdded ffiniau eu plwyf unwaith y flwyddyn, gyda’r bobl hŷn yn arwain y bobl ifanc, gan ddeall eu tirwedd gam wrth gam.
Wrth i’r rhwydwaith Llwybrau Araf ymsefydlu (ac mae’n digwydd! Mae un ym mhob wyth Slow Way wedi’i chadarnhau bellach, a llwybrau dibynadwy eisoes wedi’i gysylltu o Fanceinion i Ledbury a Chaerdydd i Brighton) rydym yn edrych ymlaen at adeg pan fydd y wlad gyfan wedi’i rhwydweithio.
Wedyn, pob blwyddyn, fydd angen ei sbïo drosti i sicrhau ei fod yn ddibynadwy. Croeso felly i’r Ŵyl Gwirio’r Llwybrau! Traddodiad yn y dyfodol, gan ddechrau nawr.
Allech chi addo i fod yno am yr un cyntaf?
Mae’n fudiad sy’n bwysig
Byddwch yn helpu i greu rhwydwaith nid yn unig ar gyfer cerdded ac olwyno, ond ar gyfer llawenydd, iechyd, cariad, syniadau, creadigrwydd, perthnasoedd, cymunedau, helpu creu datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd, cysylltu â natur a mwy.
Bydd yn hwyl hefyd. Bydd rhai yn cerdded llwybrau ar eu pen eu hunain, bydd eraill yn ffurfio timau i wirio holl lwybrau eu tref mewn un diwrnod cyn cael cyfarfod dathlu.
I fod yn rhan o’r gwiriad haf teithiwch a gwiriwch gynifer o Slow Ways ag y gallwch rhwng Mehefin 16eg a 25ain.
Gallwch gymryd rhan ar eich pen eich hun, mewn grŵp, gyda sefydliad, fel cymuned neu fel rhan o daith gerdded ddwysedig. Gallwch gerdded, rhedeg, olwyno, trampio neu grwydro – mae’r cyfan yn cyfrif.
Barod amdani? Cofrestrwch isod a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn anfon mwy o fanylion, pecyn cymorth, a’r amserlen o deithiau cerdded tywysedig atoch.
Slow Ways hyd yn hyn
Menter ar lawr gwlad yw Slow Ways i greu rhwydwaith cenedlaethol o lwybrau cerdded. Mae’r llwybrau yn cysylltu pob un o drefi a dinasoedd Prydain â’i gilydd, sy’n ei gwneud yn haws i bobl ddychmygu, cynllunio a mwynhau mynd o le i le ar droed ac ar olwynion.
Mor belled, mae 8,000 o lwybrau cerdded wedi’u hawgrymu gan wirfoddolwyr. Yr her i ni ar hyn o bryd yw eu harchwilio i gyd – 120,000 cilomedr o lwybrau! Mae’n her enfawr ond yn un y mae modd ei chyflawni â digon o bobl.
Gallwch gerdded ac adolygu unrhyw bryd, ond bydd yr Ŵyl Gwirio’r Llwybrau yn ymgyrch amlwg, a fydd yn llawn egni a bwrlwm.
Caiff menter Slow Ways ei chefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Cofrestrwch
Cofrestrwch eich diddordeb trwy’r ffurflen yma, er mwyn i ni anfon y wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer y Pythefnos Prysur gyntaf nid oes angen cofrestru eto.
Mae croeso i chi adael unrhyw adrannau nad ydych chi’n gwybod yr ateb iddynt eto.